12/05/2026
Llyfryn Teithiau 2027 yn y Gymraeg!
2027 Welsh Language Tour Brochure!
Hello
I have for several years wanted to produce a fully bilingual brochure. I have not gone ahead with this due to the significant extra cost of printing and postage. A cost that other tour operators would not face. I have on many occasions requested financial assistance from Welsh Government with this to further promote the use of the language in the coach holiday sector. They always offer the translating service, and every time I must remind them that the translation element is not what I need assistance with, it’s the extra cost of printing and postage. I can do the translation myself!!
I have since given up requesting assistance with this and instead of producing a fully bilingual or back-to-back Welsh/English brochure, I have produced separate Welsh & English versions.
See below links for both versions.
The paper version will be posted out late summer this year. An English paper version will automatically be sent unless we are otherwise informed.
In the meantime, if you are happy to just receive these electronic copies and do not want to receive a paper version, please advise. Thank you
Endaf Jones
Director
Helô
Rwyf wedi bod eisiau cynhyrchu llyfryn cwbl ddwyieithog ers sawl blwyddyn. Dydw i ddim wedi bwrw ymlaen â hyn oherwydd y gost ychwanegol sylweddol o argraffu a phostio. Cost na fyddai cwmniau teithio eraill yn ei hwynebu. Rwyf wedi gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru sawl gwaith yn yr ymdrech i hyrwyddo defnydd yr iaith yn y maes hysbysebu teithiau. Maent bob amser yn cynnig y gwasanaeth cyfieithu, a phob tro mae'n rhaid i mi eu hatgoffa nad yr elfen gyfieithu yw'r hyn yr wyf angen cymorth ag ef, ond y gost ychwanegol argraffu a phostio. Gallaf wneud y cyfieithiad fy hun!
Ers hynny, rydw i wedi rhoi'r gorau i ofyn am gymorth gyda hyn ac yn lle cynhyrchu llyfryn cwbl ddwyieithog, neu lyfryn Cymraeg/Saesneg cefn-wrth-gefn, rydw i wedi cynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Gweler isod y dolenni i'r ddau fersiwn
Nodwch: Rwy'n aros am gyfieithiad swyddogol o'r Siarter Fasnachu ar Dudalennau 22 a 23. Mae hon yn ddogfen bwysig ac mae angen gwiriad cyfreithiol gan BCH/ABTOT cyn ei chyhoeddi yn y Gymraeg.
Bydd y fersiwn bapur yn cael ei bostio allan ddiwedd yr haf eleni. Anfonir fersiwn bapur Saesneg yn awtomatig oni bai eich bod yn rhoi gwybod yn wahanol.
Yn y cyfamser, os ydych chi'n hapus i dderbyn y copïau electronig hyn yn unig ac nad ydych chi eisiau derbyn fersiwn bapur, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Diolch
Endaf Jones
Cyfarwyddwr
https://images.joneslogin.co.uk/PDFs/2027llyfryncymraeg.pdf
https://images.joneslogin.co.uk/PDFs/2027brochure.pdf