01/11/2026
Boed i chwi egni newydd
Liw dydd yng ngwres yr haul,
A thyner wawl y lleuad
Liw nos i fwrw’r draul,
A golched cynnes gawod law
I ffwrdd eich gofid a phob braw.
Chwythed awelon ysgafn
I adnewyddu’ch nerth,
Ac na foed i chwi lithro
Lle byddo’r llwybrau’n serth.
Boed i chwi ysgafn droedio’r byd
Gan roi i’r ddaear barch o hyd.
Corwynt na thywydd garw
Eich taro mwy ni all
Tra bo’ch yng nghwmni’ch gilydd
Yn gysgod naill i’r llall,
A phan fo llwydrew’n cwmpo’r mes
Mi fydd y nailll i’r llall yn wres.
Dwy galon, un dyhead,
Dwy dafod ond un iaith,
Dwy raff yn cydio’n ddolen,
Dau enaid ond un taith.
Mi fydd cwmniiaeth yn parhau,
Nid oes unigrwydd lle bo dau.
Rhagoch i’ch papell bellach
I gadw tân ynghynn,
Y drws i bawb yn agor
A’r holl linynau’n dynn.
Doed eich breuddwydion oll yn wir,
Boed fyr eich llid a’ch cof yn hir.
(Words: Dic Jones. Image: Owners Wayne & Tracey).